Dechrau cynllun i geisio cynyddu allforion Cymreig
Fe fydd rhaglen newydd gan Lywodraeth Cymru yn gobeithio helpu cwmnïau o Gymru i allforio mwy o’u cynnyrch ar draws y byd.
Mae’r Rhaglen Clwstwr Allforio yn un o gyfres o fentrau mae’r llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno fel rhan o Gynllun Gweithredu Allforio Cymru.
Tra bo bron i £17.8b o allforion Cymreig wedi eu dosbarthu yn 2019, fe ddisgynnodd hyn i £13.6b yn 2020.
Yn ystod chwarter cyntaf 2021, roedd gwerth allforion Cymreig yn £3.1b yn ôl ffigyrau dros dro.
Mae hyn bron i £1b yn llai na chwarter cyntaf 2020.
£1.9b oedd gwerth allforion Cymreig i’r Undeb Ewropeaidd yn ystod chwarter cyntaf 2021, sy’n ostyngiad o’r £2.5b am yr un cyfnod yn 2020.
Mae’n debygol fod y pandemig a’r cyfnodau clo wedi effeithio ar y nifer o allforion llynedd ac eleni wrth i nifer o fusnesau orfod cau eu drysau am gyfnodau.
Bwriad y cynllun newydd yw cynllunio i ddod a chwmnïau at ei gilydd i ddatblygu eu gallu i allforio.
Fe lansiodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y cynllun ddydd Mercher wrth ymweld â chwmni Catsci yng Nghaerdydd, sy’n datblygu prosesau gweithgynhyrchu fferyllol cynaliadwy.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau ledled Cymru i'w helpu i greu swyddi newydd yn niwydiannau y dyfodol.
"Mae allforio nwyddau a gwasanaethau eisoes yn cyfrannu cryn dipyn i'n heconomi. Mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynnal a datblygu'r cyfraniad hwn er mwyn ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yn awr ac yn y dyfodol”.
Llun: Paul Farmer (drwy geograph)