
Creu arddangosfa i daflu goleuni ar ‘gymunedau sy’n cael eu hanghofio’
Mae artist ifanc o Gaerdydd yn rhoi sylw i ddwy dref ddiwydiannol yng Nghymru fel rhan o arddangosfa newydd sy’n dechrau ddydd Sadwrn.
Bwriad ‘Yr ôl-ddiwydiannol y De a’r Gogledd’ yw taflu goleuni ar y cymunedau “sy’n cael eu hanghofio” yng Nghymru, yn ôl y ffotograffydd Ffion Denman.
Port Talbot a Blaenau Ffestiniog yw testun ei harddangosfa, dwy dref lle mae diwydiant yn hollbwysig.
Ond dyw’r ddau le “ddim yn debyg o gwbl”, meddai’r artist 22 oed.


Wrth siarad gyda Newyddion S4C tra’n chwilio am gartref newydd yn Llundain, dywedodd mai bwriad y gwaith oedd “tynnu sylw at gymunedau sy’n gudd, yn pylu neu ar gyrion cymdeithas”.
“Roeddwn i’n gwybod yn syth mai Blaenau Ffestiniog roeddwn i eisiau canolbwyntio arni yn y gogledd; mae diwydiant yn bob man ti’n edrych yno.
“Gyda Phort Talbot, mae o’n fwy cynnil – mae’r tirlun ei hun mor drawiadol, ond dydy'r lle ei hun ddim yn cael ei adnabod fel lle neis iawn.”


Roedd plethu’r hanes a’r cyfredol yn hollbwysig i’r arddangosfa, meddai.
Eglurodd mai’r nod oedd dangos sut mae “bywyd ôl-ddiwydiannol wedi niweidio diwylliant a hunaniaeth Cymru, ond yn ei dro sut mae pobl wedi ceisio goresgyn hyn”.
“Daeth hi’n amlwg fod 'na lot o ansicrwydd o amgylch gwaith a chyfleoedd ym Mhort Talbot, a falle bod pobl yn anwybyddu’r problemau yma.”
“Ym Mlaenau Ffestiniog mae 'na deimlad fod pobl yn trio addasu'r tirlun, mae 'na naws twristiaeth yno – ac mae hynny yn codi pryderon am yr iaith Gymraeg ac ail-gartrefi.
“Roeddwn i’n siarad hefo pobl yno oedd yn dweud fod y pentref yn wag yn ystod y gaeaf.”



Mae ‘na elfen wleidyddol i’r arddangosfa, gyda Ffion yn gofyn i bobl ymwneud â’r 113 o luniau wrth ymweld.
“Mae rhan o’r gwaith yn cael ei arddangos mewn dull postcard, a dwi’n gofyn i bobl guradu y cynnwys eu hunain.
“Drwy hynny, mae gan bobl yr hawl i ddewis trefn y lluniau a’r naratif.
“Bwriad hynny ydy rhoi tynged y trefi yma yn nwylo’r gwylwyr, achos dyw hynny heb fod yn wir o hyd.
“Mae dyfodol y cymunedau yma yn aml wedi ei benderfynu gan rywun o’r tu allan,” meddai.
Bydd yr arddangosfa wedi’i lleoli yn y Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd rhwng 18 Medi - 30 Hydref.