Pryder am effaith Covid-19 ar gyfleoedd pobl i siarad Cymraeg yn ddyddiol

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi mynegi pryder am yr effaith y mae cyfyngiadau Covid-19 wedi ei gael ar gyfleoedd pobl i siarad Cymraeg yn ddyddiol.
Mae canlyniadau arolwg gafodd ei gyhoeddi'r wythnos hon yn dangos cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol, o 53% yn 2015 i 56% yn 2020. Dim ond tan fis Mawrth 2020 y bu'r arolwg yn rhedeg oherwydd Covid-19.
Rhybuddiodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, y gallai Covid-19 arwain at ostyngiad yn y ffigurau, a dywedodd fod targed Llywodraeth Cymru i ddyblu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol erbyn 2050 yn “uchelgeisiol iawn”.
Dywedodd: “Yr her nawr yw edrych ar yr ystadegau a gweld sut gellir sicrhau rhagor o gynnydd.
“Yn ystod yr hydref byddaf yn cyhoeddi Adroddiad 5 mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg, sef adroddiad cynhwysfawr sy’n pwyso a mesur y gwahanol ddatblygiadau a’r ffactorau sydd wedi effeithio ar yr iaith rhwng 2015 a 2020.
“Bydd yr adroddiad yn fodd o roi cyd-destun i ganlyniadau’r arolwg, a bydd hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu uchelgeisiol i sicrhau rhagor o gynnydd.”
Canlyniadau eraill yr arolwg:
Roedd 12% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg bob dydd
Roedd 4% yn ei siarad yn wythnosol
Roedd 4% yn ei siarad yn llai aml
Gallai 1% ei siarad ond byth yn ei siarad
Ni allai 78% siarad Cymraeg o gwbl
Darllenwch y stori’n llawn yma.