Newyddion S4C

Marwolaeth Parc Biwt: Apêl am dyst posib

14/09/2021
Dr Gary Jenkins

Mae Heddlu’r De yn apelio am gymorth i ddod o hyd i dyst posib fel rhan o’u hymchwiliad i farwolaeth dyn yn un o barciau Caerdydd.

Mae’r heddlu eisoes wedi rhyddhau llun o’r tyst dan sylw, ond maent wedi dod o hyd i lun cliriach o’r unigolyn yn dilyn ymholiadau am gynnwys Teledu Cylch Cyfyng (CCTV).

Bu farw Dr Gary Jenkins, 54 oed, ddydd Iau, 5 Awst yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn dilyn ymosodiad ym Mharc Biwt yn gynnar fore Mawrth, 20 Gorffennaf.

Cafodd tri o bobl eu cyhuddo o lofruddio ac maent wedi eu cadw yn y ddalfa.

Nid yw swyddogion yn chwilio am unigolion eraill mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar hyn o bryd.

Image
tyst parc biwt
(Llun: Heddlu De Cymru)

Credai'r heddlu fod y dyn wedi ei leoli ar ben Heol y Frenhines ger y gyffordd gyda Ffordd Sant Ioan am 11:30 nos Lun, 19 Gorffennaf.

Maent yn deall iddo fod wedi symud i ardal garej Esso ar waelod Ffordd y Gadeirlan am 11:54, cyn cerdded i fyny’r stryd honno i ffwrdd o gyfeiriad canol y ddinas.

Mae’r heddlu wedi pwysleisio nad yw’r dyn wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ond y gallai fod a gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i’w hymchwiliad.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a fedrai fod o gymorth i’r ymchwiliad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod *254215.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.