Newyddion S4C

Ffyrdd ar strydoedd siopa Sir Gaerfyrddin i ailagor

14/09/2021
Stryd y Brenin caerfyrddin

Bydd rhai ffyrdd yn nhrefi Sir Gaerfyrddin a gafodd eu cau yn ystod y pandemig yn ailagor wythnos nesaf.

O 20 Medi, bydd Stryd y Brenin yng Nghaerfyrddin a Stryd Cowell yn Llanelli yn ailagor i draffig yn dilyn newidiadau diweddar yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae Stryd y Brenin wedi bod ar gau i draffig yn ystod y dydd ers Awst 2020.

Cyflwynodd Gyngor Sir Gaerfyrddin newidiadau i ganol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman i gadw pellter cymdeithasol a chreu mwy o gyfleoedd i fasnachu yn yr awyr agored. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Mae cael canol ein trefi yn ôl ar eu traed yn un o flaenoriaethau allweddol ein cynllun adfer economaidd ac rydym yn falch o fod mewn sefyllfa lle gallwn newid rhai o'n mesurau dros dro.

Ychwanegodd: “Wedi dweud hynny, rydym yn falch o fanteisio ar y cyfle i gadw rhai o'r mesurau sydd wedi gwella diogelwch ac ansawdd aer. Nid yn unig y mae hyn yn gwneud synnwyr, ond mae'n cyd-fynd â'n hamcanion i hyrwyddo cerdded a beicio fel opsiynau teithio cynaliadwy.”

Bydd rhai newidiadau ers y pandemig yn parhau yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli.

Bydd terfynau cyflymder o 20mya yn parhau i gael eu gweithredu er mwyn helpu diogelwch ac ansawdd aer, a bydd y gorchymyn traffig 'mynediad yn unig' dros dro ar Heol Dŵr, Caerfyrddin yn cael ei wneud yn barhaol ac yn cael ei orfodi.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.