Newyddion S4C

Covid-19: Ysgolion mewn dwy sir yn symud i 'Lefel Risg Uchel'

Wales Online 14/09/2021
Ysgol

Mae ysgolion yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi symud i Lefel Rhybudd Uchel Covid-19 wrth i niferoedd achosion y feirws gynyddu yn y gymuned.

Yn ôl Wales Online, mae cynghorau sir y ddwy ardal wedi gofyn i ysgolion ail-gyflwyno cyfyngiadau, fel systemau unffordd, ymbellhau’n gymdeithasol a gwisgo mygydau mewn mannau cymdeithasol.

Ond, does dim gofyn i bobl wisgo mwgwd mewn gwersi nac ail-gyflwyno ‘swigod’ dosbarth.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus ardal Bae Abertawe, Dr Keith Reid: "Dyw ysgolion eu hunain ddim yn risg uchel, ond rydym yn gofyn iddyn nhw gymryd camau i geisio atal yr ymlediad parhaus o’r feirws yn y gymuned ehangach.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.