
Dyn mewn cadair olwyn yn galw ar fusnesau i wneud mwy dros bobl anabl

Mae dyn o Ferthyr Tudful yn galw ar fusnesau i wneud mwy dros bobl ag anableddau ar ôl iddo ddweud bod rhaid iddo fynd adref o noson allan gyda’i ffrindiau oherwydd diffyg hygyrchedd a mynediad i'w gadair olwyn.
Roedd Brad Cowell yn paratoi i fynd allan gyda’i ffrindiau yn Abertawe, ond roedd yn cael trafferth mynd i mewn i rai lleoliadau yn y ddinas oherwydd nad oeddent yn gallu sicrhau mynediad iddo.
Dywedodd bod hi'n "amser i adeiladau ddarparu mwy ar gyfer pobl anabl" yn enwedig yn y flwyddyn 2021.

"Ddylwn i ddim gorfod cynllunio pob tro rydw i eisiau mynd mas. Dylwn i allu mynd lle rydw i eisiau mynd, pan rydw i eisiau mynd.
"Dydw i ddim yn ceisio newid y byd. Rydw i eisiau cael gwell mynediad i bobl fel fi.
Mewn neges ar Twitter, sydd eisoes wedi cael ei rhannu bron i 13,000 o weithiau, mae’n dweud ei fod am “fwynhau bywyd gyda’i ffrindiau.”
Mae'r mater yn un mae Marg McNeil wedi bod yn ceisio ei wella ers blynyddoedd.
Cafodd yr ap 'See Around Britain' ei lansio yn 2016, ac mae'n cynnwys manylion am ba mor hygyrch yw llefydd, gyda dros 8,000 o leoliadau Cymreig wedi'u rhestru ar y platfform.
Cynsail yr ap yw i'r cyhoedd a pherchnogion lleoliadau uwchlwytho lluniau a fideos o fusnesau i ddangos a ydyn nhw'n addas ar gyfer ymwelwyr anabl.
Mae Mr McNeil, a gafodd ei eni gyda nam symud ac sydd ag ME, wedi cael trafferth cael cyllid ar gyfer yr ap ac i godi £3,000 sydd ei angen i’w wella.

Dywed fod gan rai lleoedd sydd wedi eu rhestru ar yr ap ddisgrifiadau llawn am eu hygyrchedd ond mae angen mwy o wirfoddolwyr arno i ysgrifennu adolygiadau.
Yn ôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae angen i'r rhai sy'n rhedeg busnesau lletygarwch wneud eu hadeilad "yn hygyrch i bobl anabl trwy wneud addasiadau rhesymol."
Mae hefyd yn dweud na ddylai landlordiaid aros i berson anabl ddefnyddio eu gwasanaeth ond i "feddwl ymlaen" am yr hyn y gallai fod ei angen yn rhesymol ar bobl ag ystod o anableddau.
Yn 2010, sefydlodd Llywodraeth y DU gyfraith yn nodi bod yn rhaid gwneud addasiadau i nodweddion ffisegol lleoliad sy'n rhoi unigolyn anabl dan "anfantais sylweddol."
Dywed y Gwasanaeth Cynghori ar Gydraddoldeb y gall pobl a allai fod wedi’u heffeithio'n annheg gan ddiffyg mynediad i bobl anabl ysgrifennu at y sefydliad, gan ofyn pam nad yw darpariaethau wedi'u rhoi ar waith.
Ar ôl i hynny gael ei wneud gellir dwyn her gyfreithiol yn erbyn busnes os yw'n methu â chymryd camau pellach.