Dyn wedi marw tra'n deifio yn y môr ger Caernarfon
Mae dyn 64 oed wedi marw tra'n deifio oddi ar arfordir y gogledd ger Caernarfon ddydd Sul, 12 Medi
Roedd y dyn yn rhan o grŵp o ddeifwyr i fynd allan i'r dŵr, ond ni ddaeth y dyn yn ôl i'r wyneb yr un pryd â'r gweddill.
Cafodd ymchwiliad ei lansio wedi i’r heddlu gael eu galw ychydig cyn 15:30 ddydd Sul gan Wylwyr y Glannau.
Cafodd y deifiwr ei darganfod yn farw oddeutu 19:00 nos Sul.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: “Hoffwn roi fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r dyn ar yr adeg drist iawn yma.
“Mae’r heddlu bellach yn cefnogi’r crwner lleol gyda’u hymchwiliadau i amgylchiadau’r digwyddiad hwn, sydd ddim yn cael ei drin fel un amheus ar hyn o bryd”.