Gareth Bale yn dioddef o anaf ‘hirdymor’

Mae siawns Gareth Bale o ennill ei 100fed cap dros Gymru fis nesaf yn y fantol yn dilyn adroddiadau ei fod wedi dioddef o anaf.
Mae’r wasg yn Sbaen yn adrodd fod Bale wedi dioddef o anaf “hirdymor” i’w ben-glin yn dilyn profion fore Llun.
Dywed y Daily Mail mai'r gred yw bod Bale wedi anafu yn ystod hyfforddiant ei glwb Real Madrid ddydd Sadwrn.
Ni wnaeth Bale, sy’n gapten ar dîm pêl-droed Cymru, ymddangos yn ystod gêm Real yn erbyn Celta Vigo ddydd Sul.
Mae disgwyl iddo ennill ei 100fed cap dros Gymru fis nesaf wrth i’r crysau cochion herio’r Weriniaeth Tsiec mewn gêm ragbrofol Pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022.
Os daw cadarnhad, fe fydd yn ergyd drom i ochr Rob Page, sy’n gobeithio codi o’r trydydd safle yn Grŵp E.
Mae Cymru naw pwynt ar ôl Gwlad Belg ar hyn o bryd, a’n gyfartal â’r Tsieciaid.
Darllenwch y stori’n llawn yma.