Pobl ifanc rhwng 12 a 15 i dderbyn un dos o frechlyn Covid-19
Bydd brechlyn Covid-19 yn cael ei gynnig i bobl ifanc rhwng 12 a 15 yn dilyn cymeradwyaeth gan Brif Swyddogion Meddygol y DU.
Dywedodd yr Athro Chris Witty ar ran Lloegr fod y penderfyniad wedi’i wneud yn dilyn ystyriaeth o’r effaith y “gallai hyn gael ar drosglwyddiad mewn ysgolion, yn ogystal â'r effaith ar addysg”.
Ychwanegodd ei fod yn adnodd defnyddiol er mwyn osgoi unrhyw darfu.
Bydd un dos o frechlyn Pfizer yn cael ei gynnig i’r grŵp oedran dan sylw, ac mae disgwyl i’r broses o ddosbarthu ddechrau “mor fuan â phosib”.
Yn y gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y GIG yng Nghymru yn “barod i fynd” o ran brechu pobl ifanc rhwng 12 a 15.
Mae Russell George, llefarydd cysgodol dros iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r cyhoeddiad, ac yn gobeithio y bydd yn golygu “dim mwy o ddiwrnodau ysgol coll i blant sydd wedi colli cymaint yn barod dros y flwyddyn a hanner diwethaf.
“Dylai rhieni a phobl ifanc yn eu harddegau nawr benderfynu gyda’i gilydd a ddylid cael y pigiad ai peidio, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwtogi ar eu rhyddid trwy basbortau brechlyn pe byddent yn dewis fel arall.
Ychwanegodd fod brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer rhai sydd mewn risg uchel yn “fwy o flaenoriaeth” ac y byddant yn galw ar y llywodraeth i gadw hynny mewn cof wrth iddynt roi trefniadau yn eu lle.
Yn y gynhadledd i’r wasg ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y GIG yng Nghymru yn “barod i fynd” o ran brechu pobl ifanc rhwng 12 a 15.
Brynhawn ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y bydd “gweinidogion Cymru yn ystyried yn ofalus y cyngor a dderbyniwyd heddiw gan y pedwar Prif Swyddog Meddygol, ochr yn ochr â’r cyngor cynharach gan y JCVI cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â rhaglen frechu ar gyfer plant 12-15 oed".