Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Betws-y-coed

13/09/2021
S4C

Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ger Betws-y-coed wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Jason Bown, 52 oed, mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 i gyfeiriad Rhydlanfair yn Sir Conwy ddydd Mawrth, 7 Medi.

Dywedodd ei deulu fod y gŵr o Sir Derby yn fab, brawd, nai a ffrind ffyddlon i lawer oedd yn ei adnabod drwy ei waith fel peintiwr ac addurnwr.

“Ni all geiriau esbonio pa mor wag yw bywydau ei deulu, ei ffrindiau a’i gwsmeriaid nawr ei fod wedi mynd.

“Bydd pawb a oedd yn ei adnabod yn gweld ei eisiau am byth.”

Mae dyn 61 oed, oedd hefyd yn gyrru beic modur, yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty wedi iddo ddioddef anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un fyddai wedi bod yn teithio ar yr A5 yn ystod y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod 21000623457.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.