Newyddion S4C

Dyn wedi ei anafu'n ddifrifol yn dilyn ymosodiad ger traeth Porthcawl

12/09/2021
Heddlu.
Heddlu.

Mae dyn 33 oed wedi ei anafu'n ddifrifol yn dilyn ymosodiad ger traeth ym Mhorthcawl ddydd Sul.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad am oddeutu 03:20 fore Sul, ar ôl adroddiadau fod dyn wedi dioddef anafiadau i'w ben tu allan i dafarn The Beachcomber yn y dref. 

Dywed yr heddlu fod y dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a bod ei gyflwr yn "ddifrifol". 

Mae dyn 39 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o affräe ac yn parhau yn y ddalfa. 

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac mae disgwyl i arestiadau eraill gymryd lle. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason McGill: "Mae hwn yn ardal ddiogel ac ni fydd ymddygiad treisgar o'i fath yn cael ei ganiatáu. 

"Mae swyddogion yn parhau gydag ymholiadau i amgylchiadau'r digwyddiad ac rydym yn apelio am wybodaeth. 

"Yn benodol, hoffwn glywed gan unrhyw un a welodd y ffrwgwd rhwng dau grŵp o ddynion a ddigwyddodd ar Bromenâd y Dwyrain rhwng 02:200 a 03:00.

"I unrhyw un sydd wedi ymweld â'r ardal, mae Promenâd y Dwyrain wrth ymyl Traeth Coney a'r ffair."

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2100321410.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.