Siôn Jobbins: 'YesCymru yn ceisio newid i fod yn fwy croesawgar'

Siôn Jobbins: 'YesCymru yn ceisio newid i fod yn fwy croesawgar'
Mae cyn-gadeirydd YesCymru wedi dweud fod y mudiad yn ceisio newid i fod yn fwy cynhwysol.
Fe wnaeth Siôn Jobbins ymddiswyddo fel cadeirydd ym mis Gorffennaf oherwydd “pwysau’r rôl”, ond mae’n parhau’n aelod o’r mudiad.
Lansiwyd y grwp annibynniaeth yn 2016, ac maen nhw wedi gweld cynnydd sylweddol mewn aelodaeth mewn blynyddoedd ddiweddar.
Ond ers rhai misoedd, mae gwrthdaro ar-lein ymysg rhai aelodau am gyfeiriad ac arweiniad YesCymru wedi creu helynt.
Yn fuan ar ôl i’r grŵp rhybuddio fod rhai o brif swyddogion YesCymru yn cael eu haflonyddu, ym mis Awst fe ymddiswyddodd holl aelodau’r Pwyllgor Canolog.
Daeth hyn yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor gan grwpiau rhanbarthol o’r Pwyllgor Cenedlaethol.
Mae disgwyl ethol pwyllgor newydd maes o law.
Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Mr Jobbins fod newidiadau eisoes wedi’u gwneud o fewn y mudiad.
“Gafodd y pwyllgor diwethaf o'n i'n gadeirydd arno drafodaeth mawr, o'n i eisiau gwneud yn siŵr bod y mudiad yn gynhwysol," dywedodd.
“Fe wnaethom ni newid trwy bleidlais, a chael dros ddau drydydd i bleidleisio drosto fe o'r bobol oedd yna i gael hanner aelodau'r pwyllgor canolog yn fenywod ac un person ddim yn wyn, ac oedd hwnna oeddwn ni'n meddwl, yn bwysig iawn i ddangos y math o gyfeiriad mae YesCymru'n mynd.
“Felly ma'r syniad bod YesCymru yn euog o rywbeth, dydy hwnna ddim yn wir.”
‘Trio newid y sefyllfa’
Mater sy’n ganolog i’r tensiynau o fewn YesCymru dros y misoedd diwethaf yw honiadau nad yw’r grŵp yn groesawgar i bobl trawsryweddol.
Mae Mr Jobbins yn mynnu eu bod nhw, gan ddweud eu bod nhw “eisiau’r bobl yna yn y mudiad”.
“Ma 'na dadleuon dros y byd am lot o'r pwyntiau, yn arbennig y ddadl traws; mae'n ddadl ddyrys i lot o bobl," meddai.
“Ond ma' YesCymru yn croesawu pobl, a ni'n trio newid y sefyllfa fel bod mwy o fenywod yn y sefyllfa pŵer, achos ma' 'na wastad fwy o fechgyn na menywod."
Ychwanegodd fod y grŵp yn ceisio newid pethau fel bod rhywun “sydd ddim yn wyn” ar y pwyllgor.
“Felly bo ni’n adlewyrchu cymdeithas Cymru, nid bod da ni 12 o bobl fel Siôn Jobbins ar y pwyllgor,” meddai.
‘Mae'r gwn wedi tanio’
Daw sylwadau Siôn Jobbins wedi iddo ddweud ar BBC Radio Cymru fod yn rhaid i’r mudiad weithredu ar frys petai’r Alban yn datgan annibyniaeth.
Wythnos ddiwethaf, dywedodd Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, y bydd hi'n ceisio sicrhau refferendwm ar annibyniaeth yn Yr Alban cyn diwedd 2023.
Mewn ymateb, dywedodd Mr Jobbins: ""Mae eisiau i ni yng Nghymru gael pethau mewn trefn erbyn hynny.
"Mae'r gwn wedi tanio. Beth bynnag ein barn am annibyniaeth, dwi'm yn meddwl bod lot o bobl eisiau bod mewn Deyrnas Unedig sydd heb yr Alban a dwi'n credu na fydd Gogledd Iwerddon yn sefyll o gwmpas yn rhy hir.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda YesCymru am sylwad.