Cynllun i godi canolfan ffermio i helpu gyda thargedau carbon niwtral
11/09/2021
Mae cynlluniau ar y gweill i agor canolfan ffermio carbon niwtral gwerth £15 miliwn yn y gogledd, fyddai yn helpu ffermwyr i arallgyfeirio.
Bydd yn cael ei godi ar safle Coleg Cambria Llysfasi ger Rhuthun, pe bai’n mynd yn ei flaen, yn ôl Golwg360.
Mae’r datblygwyr yn honni y byddai’n helpu’r wlad i gyrraedd ei thargedau sero-net.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyrraedd y targedau hynny erbyn 2050, tra bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn credu gall y diwydiant ffermio fod yn garbon niwtral erbyn 2040.
Darllenwch y stori'n llawn yma.