Dyn tân sy'n byw yn Llanrwst yn cofio ei ymdrech i achub eraill ar 9/11
“Roeddwn yn gwybod pe byddem ni yng nghanol y rwbel, na fydden nhw’n stopio i’n cael ni mas. Dyna pam fe wnaethom ni wthio mor galed ag y gwnaethom.”
Dyma atgofion Nelson Haerr, diffoddwr tân yn Efrog Newydd ar 11 Medi, 2001. Er i 20 mlynedd fynd heibio ers yr ymosodiad, mae’r atgofion yn rhan o fodolaeth pobl fel Nelson.
Collodd chwe chydweithiwr y diwrnod hwnnw. Mae Nelson yn dweud ei fod e ond yn fyw heddiw oherwydd iddo newid amser ei shifft ar y funud olaf.
“Dwi’n cofio Medi 11 fel diwrnod braf. Dwi’n cofio gadael fy fflat ac edrych lan ar yr awyr las ac roedd e’n dwym a heulog a meddwl ‘dyna ddiwrnod neis’. Dim ond pan wnes i fynd a dillad i’r laundromat a dywedodd dyn ‘ti wedi clywed y newyddion’ nes i glywed beth oedd wedi digwydd,” dywedodd Nelson.
“I ddechrau, roeddwn i’n meddwl mai damwain wael oedd wedi digwydd efallai. Falle bod awyren fach wedi bwrw’r twr. Ond wrth i’r newyddion ddod mewn bod ail awyren wedi taro, ro’n i’n gwybod mai nad damwain oedd hyn.”
‘Dim llawer i’w hachub’
Doedd Nelson Haerr ddim i fod i weithio'r diwrnod hwnnw, ond penderfynodd fynd i Manhattan i helpu ei dîm ar safle Canolfan Masnach y Byd.
Dywedodd: “Roedd dynion yn ymestyn rhai pibellau yn ceisio diffodd y tanau a oedd yn dal i losgi yn yr adeiladau cyfagos - roedd gan Ganolfan Masnach y Byd dyrau 1 a 2, ond roedd yna 7 adeilad i gyd, ac roedd llawer o’r rheiny’n dal yn fflam.
“Roedd rhai dynion yn gweithio ar danau ceir a thanau adeiladau. Ces i fy anfon i mewn i wneud gwaith achub, ond fel y gwnaethom ddarganfod yn yr amser i ddod, doedd dim llawer i'w hachub.”
Aeth Nelson a’i gydweithwyr mewn i’r adfeilion tra roedd yr adeilad yn dal i gwympo: “Roedd yn dwll enfawr ac roedd yn beryglus. Roedd yn dal i losgi felly roedd yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn.”
Eglurodd Nelson y teimlad o undod rhwng rheiny oedd yn chwilio trwy’r rwbel ar y diwrnod hwnnw: “I ddechrau, roedd pawb i lawr yno yn ceisio dod o hyd i'w dynion ac achub pobl oherwydd dim ond ychydig o amser oedd gennych chi. Un cyfle.
“Fe wnaethom dreulio pob munud o bob awr o bob dydd y gallen ni yno.”
Er bod Nelson, wedi symud i Ogledd Cymru i redeg gwesty yn 2006, mae dal i gario darn o’r papur newydd o’r diwrnod hwnnw.
Prif lun: ITV Cymru