Dedfrydu dau am ymosodiad seibr ar Brifysgol De Cymru
Mae dau ddyn o’r dwyrain canol wedi eu dedfrydu am gyfanswm o ddwy flynedd am eu rhan mewn ymosodiad seibr ar Brifysgol De Cymru.
Fe lwyddodd Noureldien Eltarki, 30, o Libya, a Hayder Ali Jasim Aljayyash, 29, o Irac i gael mynediad i rwydwaith cyfrifiadurol y brifysgol ym mis Mai 2019.
Eu bwriad oedd lawrlwytho deunydd addysgiadol a chwestiynau ac ateb gwaith cwrs er mwyn gwerthu’r wybodaeth i fyfyrwyr eraill, a hefyd addasu canlyniadau arholiadau myfyrwyr.
Roedd y ddau ddyn ar y pryd yn fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn aros ar gampws yn Nhrefforest.
Daeth swyddogion Heddlu De Cymru o hyd i ddyfeisiadau cyfrifiadurol a £17,000 mewn arian parod yn eiddo Aljayyash.
Dywedodd y ditectif Gwnstabl Marc Troake o Uned Troseddau Seibr Heddlu’r De: “Mae troseddau fel rhain yn rhai cymhleth ond yn dilyn cydweithio manwl a dwys rhwng Heddlu De Cymru a thimau technoleg gwybodaeth Prifysgol De Cymru roeddem yn gallu dod o hyd i’r unigolion hyn oedd yn credu eu bod yn gallu twyllo’r system.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhybudd i eraill sydd yn meddwl am geisio torri systemau diogelwch er mwyn manteisio’n ariannol. Mae’r adnoddau gennym ni ymchwilio a dod o hyd i ddrwgweithredwyr, a’u dwyn i gyfiawnder.”
Cafodd Hayder Ali Jasim Aljayyash ddedfryd o 20 mis o garchar.
Cafodd Noureldien Elatrki ddedfryd o naw mis wedi ei gohirio ac fe fydd yn rhaid iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl.
Llun: Google