
Cartref gofal mewn 'sefyllfa hollol amhosib' wrth i staff â Covid orfod gweithio

Mae cartref gofal ar Ynys Môn wedi cael ei orfodi i ofyn i staff i weithio shifft nos er iddynt brofi’n bositif am coronafeirws.
Dywedodd Ann Bedford, perchennog cartref Caledonia yng Nghaergybi, dyna oedd yr unig opsiwn gan nad oedd unrhyw un arall ar gael i ofalu am breswylwyr.
“Fe wnaethom drio popeth i geisio cael staff i mewn - roeddwn hyd yn oed yn ystyried gofyn i gyn-aelodau staff ddychwelyd atom.”
“Cafodd y mater ei drafod gyda’r awdurdodau, a phenderfynwyd, ar yr amod eu bod yn teimlo'n ddigon da ac oherwydd roedd y preswylwyr gyda Covid beth bynnag, y gallent ddod i mewn er eu bod wedi profi’n bositif am Covid.”
Pwysleisiodd Ms Bedford y straen enfawr mae’r sector gofal cyfan yn wynebu:
“Fe wnaethon ni drio bob asiantaeth, ond gan ein bod ni ar Ynys Môn nid ydym mor ffodus â'r trefi mwy fel Caer a Wrecsam. Eu hateb oedd “Chi'n jocian? Mae llwyth o gartrefi yn yr un sefyllfa â chi, nid oes gennym neb yn sbâr.”
"Hyd yn oed cyn i Covid effeithio arnom, roedd cartrefi preswyl yn ei chael hi'n anodd recriwtio ac erbyn hyn nid oes unrhyw gapasiti sbâr yn y system, does unman i droi."

Dywedodd Cyngor Ynys Môn wrth Ms Bedford, sydd wedi rhedeg y cartref ers 1987, nad oedd unrhyw un ar gael y gallent ei anfon i helpu.
“Collais fy nhymer gyda'r awdurdodau oherwydd roeddwn i'n teimlo nad oedden nhw'n rhoi cefnogaeth ddigonol neu ymarferol i ni. Nid wyf erioed wedi gweld sefyllfa mor wael ag yr oeddem yn ei hwynebu dros y penwythnos diwethaf. Roeddem mewn sefyllfa ofnadwy, yn sicr roedd lot o ddagrau. Mae fy nghalon yn suddo wrth feddwl am yr wythnosau a misoedd o'n blaenau."
“Dwi’n teimlo fel ar lefel bersonol bod fi’n ffaelu achos bod fi’n trio cefnogi staff a phreswylwyr ond doedd dim bydd allwn i neud.”

Fe wnaeth Donna Owens, sy’n un o’r aelodau o’r staff yn y cartref, ddweud bod gofalwyr yn rhy sâl i weithio.
“Mae rhai o’r staff yn flinedig iawn iawn nawr a ni just yn aros. Ni o hyd yn meddwl bydd rywun arall yn ffonio mewn i ddweud bod nhw’n sâl gyda Covid. Mae’n anodd.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn bod y sector gofal a chynghorau lleol yn wynebu heriau recriwtio sydd wedi cael eu gwaethygu gan y pandemig coronafeirws - ond dywedodd ei fod yn “gwrthod honiadau” bod y cartref gofal Caledonia wedi’i “adael”.
“Mae ein swyddogion, ynghyd â chydweithwyr ym maes iechyd, wedi gweithio’n agos iawn gyda Ms Bedford i ymateb i’w phrinder staff ers i’r mater hwn gael ei ddwyn i’n sylw.
“Rydym wedi darparu llawer iawn o gefnogaeth yn ystod y cyfnod yma sy’n hynod heriol i bawb, a byddwn yn parhau i wneud hynny. "
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "edrych ar y sefyllfa fel mater o frys."
“Rydyn ni'n gwybod bod y sector dan bwysau eithriadol ond rydyn ni'n bryderus iawn clywed adroddiadau o staff yn cael eu gofyn i weithio er iddynt brofi'n positif am Covid."
Ddydd Llun, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson cynnydd mewn Yswiriant Gwladol i bawb yn y DU. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr i drwsio gofal cymdeithasol yn Lloegr.
Disgwylir i Gymru dderbyn £700m ychwanegol erbyn 2024-25 o ganlyniad i'r cynnydd.
Bydd rhan o’r arian yn mynd yn uniongyrchol i'r GIG yng Nghymru oherwydd ei fod yn dod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond bydd peth ohono'n mynd i Lywodraeth Cymru sy’n penderfynu sut i'w wario.