Menyw 40 oed wedi marw ar ôl cael ei hachub o’r môr yn Sir Benfro

NS4C

Mae menyw 40 oed wedi marw ar ôl iddi gael ei hachub o'r môr yn Sir Benfro.

Cafodd ei gweld yn y môr yn ardal Angl yn ne'r sir tua 14:40 ddydd Llun.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty gan hofrennydd gwylwyr y glannau yn Sir Benfro, ond yn ôl y Western Telegraph, bu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad yw’r farwolaeth yn un amheus.

Darllenwch y stori’n llawn yma.