Cyfradd heintio Covid-19 ar ei huchaf yng Nghymru ers mis Ionawr
Mae cyfradd heintio Covid-19 yn uwch na 500 achos ymhob 100,000 o'r boblogaeth am y tro cyntaf ers mis Ionawr.
Mae’r gyfradd ymhob rhan o Gymru ar gyfartaledd bellach yn 501.8 achos ymhob 100,000 o bobl dros yr wythnos diwethaf (29 Awst 29 i 4 Medi).
Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu farw naw yn rhagor o bobl yn gysylltiedig â’r feirws dros gyfnod o 24 awr hyd at fore dydd Iau.
Cofnodwyd 2,297 o achosion yn ychwanegol yn gysylltiedig â’r feirws hefyd. Daw hyn â chyfanswm achosion positif Covid-19 Cymru ers dechrau’r pandemig i 301,276.
Yr ardal sydd â’r gyfradd heintio uchaf yw Merthyr Tudful, gyda chyfartaledd o 804 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth. Abertawe sydd yn ail gyda 700.8 a Chastell-nedd Port Talbot yn dilyn gyda 670.6.
Mae’r nifer o bobl sydd yn yr ysbyty gyda Covid-19 hefyd yn cynyddu.
Yn ôl data Ystadegau Cymru roedd 504 o bobl yn yr ysbyty yn gysylltiedig â Covid-19 ddydd Mercher.
Mae hyn bron yn ddwbl y ffigwr o gymharu gydag wythnos yn ôl.
Ond mae’r nifer yn dal i fod yn sylweddol is o’i gymharu â mis Ionawr pan oedd y gyfradd heintio yr un peth â nawr.
Mae ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dangos bod 2,364,393 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn, tra bod 2,195,417 wedi derbyn dau ddos.