Teyrngedau i 'ŵr cariadus' fu farw wedi gwrthdrawiad ger Castell-nedd

Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ei feic modur yr wythnos hon wedi rhoi teyrnged i "ŵr, tad a llys-dad cariadus".
Bu farw James Huxtable wedi'r gwrthdrawiad rhwng ei feic modur a char arall ar heol Dyffryn Afan yng Nghymer, Castell-nedd brynhawn ddydd Mawrth.
Yn ôl Wales Online, dywedodd gwraig Mr Huxtable, Ashleigh, ei fod yn “weithiwr caled ac yn ddyn angerddol, cariadus a sensitif oedd â chalon fawr".
Ychwanegodd: “Bydd ei deulu, ffrindiau a’i gyd-weithwyr yn ffatri Aston Martin yn Saint Athan yn gweld ei eisiau’n fawr."
Mae Heddlu De Cymru’n apelio am unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gyda nhw.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: teulu James Huxtable