Ceredigion: Apêl am wybodaeth wedi i gi anafu person ar draeth
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i berson dioddef anafiadau ar ôl cael ei i frathu gan gi ar draeth yng Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y ci wedi brathu'r person ar draeth Llan-non ym Mae Ceredigion am 16:30 ddydd Mercher.
Dioddefodd un person anaf i'w benelin, ac mae'r briw yn "ddwfn" meddai'r heddlu.
Mae'r llu yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i berchennog y ci.
"Mae'r dyn yn cael ei ddisgrifio'n un sydd yn ei 40au, yn wyn, yn gwisgo jîns glas, trainers a hoodie glas.
"Hefyd mae'r disgrifiad yn dweud fod ganddo wallt brown byr, does ganddo ddim locsyn ac mae ganddo acen Gymreig."
Ychwanegodd y llu bod y ci yn cael ei ddisgrifio fel un "du, mawr sydd yn debyg i gi tarw ond llawer mwy mewn maint."
Roedd y ci ar dennyn adeg y digwyddiad.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod DP-20260128-289.
