Addewid gan y Ceidwadwyr i dalu bron i £5,000 neiniau a theidiau am ofal plant

Llun: PA
Darren Millar / gofal plant

Fe allai neiniau a theidiau dderbyn hyd at £4,8000 y flwyddyn am ddarparu gofal plant i'w teuluoedd pe bai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cael ei ethol i Lywodraeth Cymru fis Mai.

Dywedodd y blaid y byddan nhw'n cydnabod "rôl hanfodol" neiniau a theidiau wrth fagu plant o fewn i'r uned deuluol.

Fe fyddai'r llywodraeth yn darparu taliad o £2,400 fesul plentyn, gydag uchafswm o ddau blentyn ar gyfer pob cartref.

Bydd rhieni yn gallu dewis un nain neu daid ar gyfer y teulu ar gyfer darparu'r gofal, a hynny ar gyfer plant rhwng naw mis a phedair oed.

Dywedodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bod y cynnig yn rhoi'r cyfle i rieni wneud y "penderfyniad gorau" ar gyfer eu teuluoedd.

"Yn yr etholiad hwn rydw i'n ymrwymo i gynnig polisïau o blaid teuluoedd, y mwyaf mae Cymru wedi ei weld erioed," meddai.

"Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod rôl hanfodol neiniau a theidiau wrth ddarparu gofal i'w wyrion, ac yn ymestyn mynediad at fwy o ofal plant am ddim ac yn rhoi'r cyfle i rieni wneud y penderfyniad gorau i'w hunain a'u teuluoedd.

"Mae'r cynlluniau yn fforddiadwy, yn gallu cael eu darparu'n hawdd ac yn gymorth ar gyfer Cymry sy'n gweithio."

Ar hyn o bryd dan Lywodraeth Lafur mae rhieni i blant tair a phedair oed yng Nghymru yn gallu hawlio 30 awr o ofal plant am ddim pob wythnos os ydyn nhw'n cwrdd â'r gofynion.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau ymestyn y cynnig hwn i rieni plant rhwng naw mis a phedair oed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.