Conwy: Tri yn yr ysbyty wedi damwain 'ddifrifol' ar yr A55
29/01/2026
Mae tri o bobl yn yr ysbyty yn dilyn "gwrthdrawiad difrifol" ar ffordd yr A55 yn Sir Conwy.
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng twneli Penmaenmawr a Chonwy am rai oriau brynhawn Iau.
Mae Traffig Cymru bellach wedi cyhoeddi bod y ffordd wedi ailagor tua'r dwyrain wrth gyffordd 16, ac mae un lôn wedi agor tua'r gorllewin.
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i'r lleoliad am tua 11:59 yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad ar yr A55.
"Anfonwyd pedwar Ambiwlans Brys a dwy Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru i’r lleoliad. Cynigiwyd cymorth pellach gan bedwar parafeddyg oedd oddi ar ddyletswydd.
"Darparwyd cymorth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn tri hofrennydd elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.
"Cafodd tri chlaf eu trosglwyddo i’r ysbyty i gael triniaeth bellach."
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i deithwyr osgoi'r ardal am y tro.
Bydd swyddogion yn cyhoeddi datganiad am yr hyn sydd wedi digwydd pan fydd mwy o wybodaeth ar gael, medd y llu.