Penodi Tomos Dobson i rôl newydd yng Nghadeirlan Bangor
Mae Esgobaeth Bangor wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Tomos Dobson o Wynedd i rôl newydd yng Nghadeirlan Bangor.
Bydd Mr Dobson, sydd yn Gadeirydd gorsaf radio leol Môn FM, yn cymryd yr awenau fel Rheolwr Gweithrediadau y Gadeirlan.
Mae hynny’n golygu y byddai’n gweithio’n agos gyda swyddogion y Gadeirlan i oruchwylio holl swyddogaethau gweithredol, ariannol a llywodraethu.
Cafodd y rôl newydd ei chreu drwy gyllid gan yr Eglwys yng Nghymru fel rhan o’u hymrwymiad i gefnogi’r chwe Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd ledled Cymru.
Yn raddedig o Brifysgol Bangor mewn Rheolaeth Busnes, dywedodd Mr Dobson ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr” at ddod yn rhan o dîm y Gadeirlan ac at fod yn “rhan o gymuned mor ystyrlon ym Mangor.”
“O brofiad, rwy’n ffynnu wrth adeiladu timau a chreu cymunedau, ac felly rwy’n gyffrous i gwrdd â phobl newydd a chynorthwyo i wneud effaith gadarnhaol i gryfhau strwythur a llywodraethu’r Gadeirlan ar gyfer y dyfodol,” meddai.
Dywedodd yr Esgobaeth fod ganddo brofiad helaeth ym maes cyfathrebu, darlledu, arweinyddiaeth a rheolaeth.
Dywedodd Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, Manon Ceridwen James: “Rydw i a gweddill tîm yr Eglwys Gadeiriol yn edrych ymlaen at weithio gyda Tomos, ac i elwa o'i arbenigedd mewn cyfathrebu, rheoli a rheolaeth ariannol.
“Fel dyn o Wynedd sydd wedi astudio ym Mangor, mae yn adnabod ein 'n cyd-destun yn dda ac yn deall ein heriau.”
Y tu allan i’w waith, mae Tomos yn angerddol am gerddoriaeth ac yn canu gyda Hogia’r Ddwylan, côr meibion o Ynys Môn.

