Boris Johnson yn ennill pleidlais ar gynnydd yswiriant gwladol

Mae Aelodau seneddol wedi cefnogi cynllun y llywodraeth i gynyddu yswiriant gwladol o 319 pleidlais i 248.
Bydd y cynnydd o 1.25% yn cael ei ddefnyddio i ariannu £12bn ar gyfer y GIG a gofal cymdeithasol.
O dan gynlluniau Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, ni fydd yn rhaid i gleifion sy'n dod i mewn i'r system gofal cymdeithasol o Hydref 2023 dalu mwy na £86,000 dros eu hoes, ac eithrio bwyd a llety.
Mae arweinydd y blaid Lafur wedi beirniadu’r cynnydd gan ddweud: “Y gwir yw nad yw ei gynlluniau [Johnson] yn gwneud yr hyn y mae'n ei honni. Bydd pobl yn dal i wynebu biliau enfawr, bydd yn rhaid i lawer o berchnogion tai werthu eu cartrefi.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.