
‘Dw i’n cael tua 25-30 meigryn y mis’: Galwad mam am fwy o gymorth

Mae menyw sy’n dweud bod hi wedi dioddef o feigrynau difrifol ers bron i 30 mlynedd yn galw am fwy o gymorth i’r rhai sy’n dioddef gyda’r cyflwr.
Dechreuodd Lisa Williams o Abertawe ddioddef cur pen “annioddefol” 27 mlynedd yn ôl, gan ddweud iddi orfod aros am amser hir cyn cael ei chyfeirio at glinig arbenigol.
Dywedodd Lisa: "Dwi'n cael tua 20 i 25 meigryn y mis. Rwy'n cael anawsterau mawr gyda nhw. Mae düwch yn dod ar yr ochr chwith o fy ngolwg, dwi’n colli cryfder yn fy mraich chwith, mae goleuadau rhyfedd yn dod o flaen fy llygaid ac mae’r cur pen yn annioddefol.
“Rwy'n sensitif iawn i arogleuon a synau, felly mae bywyd yn gyffredinol yn anodd iawn.”

Mae Lisa hefyd yn ofalwr ar gyfer ei mab anabl, Macsen: “Rwy'n ofalwr amser llawn i fy mab sydd ag anabledd difrifol, felly yn anffodus, nid wyf yn cael llawer o amser i orwedd lawr mewn ystafell dywyll. Mae'n rhaid i mi fwrw ati - dwi’n ceisio byw bywyd i’r gorau y gallaf mewn gwirionedd."
O ddydd i ddydd, mae Lisa’n gwisgo plygiau clust, yn cerdded o gwmpas gyda sbectol haul dros ei llygaid, yn peidio ateb y ffôn ac yn cerdded yn ofalus er mwyn osgoi creu dirgryniad o dan draed a allai sbarduno meigryn.
Dywedodd: "Mae'n anodd iawn ei reoli. Dwi wedi rhoi cynnig ar gannoedd o wahanol bethau i'w hatal neu eu lleihau. Dwi wedi mynd trwy bob meddyginiaeth sydd ar gael.

"Dros y blynyddoedd rydw i wedi mynd yn ôl ac ymlaen at y meddyg teulu ac fe wnaethant roi llwyth o wahanol feddyginiaethau i mi, a dim un yn gweithio. Yn y pen draw, ges i fy nghyfeirio at y ganolfan meigryn, sy'n glinig yn yr ysbyty.
"Roeddwn i wrth fy modd oherwydd roeddwn i o'r diwedd yn teimlo bod gen i rywle i fynd a gymerodd fi o ddifrif."
Mae adroddiad gan The Migraine Trust fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Meigryn yn nodi fod pobl ledled Cymru a gweddill y DU yn “aros blynyddoedd” i gael eu cyfeirio at gymorth arbenigol.

Yn ôl yr ymddiriedolaeth, mae meigrynau yn effeithio ar tua 400,000 o bobl yng Nghymru, gyda mwy o bobl yn dioddef â meigryn yn y DU na diabetes, y fogfa neu asthma, ac epilepsi gyda'i gilydd.
Dywed yr elusen fod diffyg gofal arbenigol yng Nghymru a bod pobl yn cael eu gadael ar y rhestrau aros am flynyddoedd, gyda’r cyflwr yn cael ei gamgymryd yn aml fel cur pen.
Dywedodd Rob Music, Prif Weithredwr y Migraine Trust fod y system “wedi torri” ac o ganlyniad wedi achosi “oedi enfawr cyn i gleifion cael diagnosis, os caiff ddiagnosis ei roi o gwbl”.

Ychwanegodd: "Nid oes ffocws ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, nid yw pobl yn cael y triniaethau cywir at yr amser iawn, felly mae pobl yn byw am flynyddoedd gyda'r driniaeth anghywir ac mae angen i hynny newid.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod effeithiau meigrynau ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG i wella gofal, gwasanaethau a mynediad at wasanaethau."
Prif lun: ITV Cymru