Rhybudd melyn am stormydd i Gymru ddydd Mercher
Mae rhybudd melyn am stormydd dros ran helaeth o Gymru mewn grym ddydd Mercher.
Mae’r rhybudd mewn grym tan 21:00 ac mae'n berthnasol i 14 o ardaloedd awdurdodau lleol ar draws y gorllewin a'r de.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r stormydd arwain at lifogydd mewn cartrefi a busnesau, gan achosi difrod i rai adeiladau.
Fe all rhai gwasanaethau trên a bysiau gael eu hoedi a’u canslo hefyd.
Mae posibilrwydd y gallai cyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill gael eu colli mewn rhai cartrefi a busnesau, ac fe allai 30-50mm o law ddisgyn mewn llai na thair awr mewn rhai ardaloedd.
Mae’r rhybudd melyn yn effeithio ar ardaloedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a Torfaen.