Lladron 'cywilyddus' yn targedu bocs casgliad eglwys yng Ngwynedd

Mae lladron a wnaeth orfodi bocs casgliad mewn eglwys yng Ngwynedd ar agor wedi eu beirniadu gan y gymuned yn lleol, adrodda North Wales Live.
Wedi'i lleoli ar bwys yr Afon Menai ger Caernarfon, mae eglwys Sant Baglan yn Llanfaglan yn lleoliad poblogaidd gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr.
Yn safle sydd â chysylltiadau hanesyddol gyda'r teulu brenhinol, lle mae Antony Armstrong-Jones, cyn ŵr Tywysoges Margaret wedi'i gladdu.
Mae'r eglwys yn gyffredinol ar agor i'r cyhoedd, dan ofal Ffrindiau Eglwysi Heb Ffrindiau, gyda'r bocs casgliad yn cael ei gadw yn yr adeilad i ymwelwyr gyfrannu at yr eglwys a'i gofal.
Dywedodd Ifor Williams, gwarchodwr yr eglwys: "Yn anffodus mae 'na rywun wedi torri fewn i focs arian yr eglwys dros y penwythnos. Mae hyn wedi digwydd sawl gwaith dros yr haf. Does gan rai ddim parch at ddim byd."
Darllenwch fwy yma.
Llun: Jeff Buck (drwy Geogrpah)