
'Cwestiynau mawr' i fwrdd iechyd y gogledd wedi achosion o hunan-laddiad

Mae wedi dod i'r amlwg fod dau glaf mewn unedau iechyd meddwl yn ysbytai'r gogledd wedi lladd eu hunain o fewn chwe mis i’w gilydd.
Mewn adroddiad sydd wedi ei drafod gan un o bwyllgorau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Mawrth, mae Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl y bwrdd yn nodi i ddau "ddigwyddiad catastroffig" ddigwydd ers cwblhau adolygiad o bwyntiau crogi posibl ym mis Medi y llynedd.
Mae Newyddion S4C yn deall mai dau hunanladdiad drwy grogi yw'r digwyddiadau dan sylw. Bu farw'r claf cyntaf yn uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ym mis Rhagfyr y llynedd, cyn i ail glaf ladd ei hun ym mis Ebrill eleni yn Uned Hergest, yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Noda'r adroddiad bod digwyddiadau tebyg drwy Gymru gyfan.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei fod yn dilyn canllawiau cenedlaethol i "adolygu, lleihau a rheoli risgiau mae pwyntiau crogi yn gallu eu hachosi."
Mewn degawd rhwng 2008-2018, bu farw 14 o gleifion ar draws y wlad mewn unedau iechyd meddwl.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dod o dan y lach am ei gwasanaethau iechyd meddwl dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wedi i ward Tawel Fan yn Ysbyty Gwynedd gael ei chau yn ddisymwth yng ngaeaf 2013. Canfyddodd adolygiad honiadau "gofidus iawn" am ofal cleifion yno.

Wrth ymateb i'r adroddiad gafodd ei drafod gan y bwrdd iechyd ddydd Mawrth, dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth y gogledd, Llyr Gruffydd: "Dydy hon ddim yn broblem newydd. 'Da ni'n gwbod bod adroddiad Ockenden nôl yn 2014 wedi amlygu gofid ynglŷn â'r pwyntie crogi yma ar yr unedau iechyd meddwl.
“Mi oedd adroddiad Holden hefyd mae'n debyg yn amlygu y pwyntie yma. Ond eto chwech i saith mlynedd yn ddiweddarach, 'da ni'n dal i weld achosion o bobl yn lladd eu hunain yn defnyddio'r pwyntiau crogi hyn. Felly mae 'na gwestiynau mawr i'r bwrdd a rheolwyr y bwrdd ynglŷn â sut bod hyn dal yn broblem gymaint o flynyddoedd wedi i hyn gael ei amlygu."
Yn ôl Dewi Roberts, aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, er bod pryder am yr achosion yn lleol, mae angen hefyd gweithredu ar lefel Cymru gyfan i leihau cyfleoedd i gleifion allu crogi eu hunain mewn wardiau iechyd meddwl.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Mae o wedi cael ei adnabod ers rhai blynyddoedd bod lleoedd angori - ligatures - ar lefel isel, yn broblem. Mae o'r ffordd fwyaf cyffredin o hunan-ladd. Ac mae 'na wersi i'w dysgu 'does."
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu gofal diogel a lleihau risg rhag i gleifion gael niwed, a bod hynny'n cynnwys cael polisïau a phrosesau i adolygu a monitro risg crogi yn gyson.
Roedden nhw'n cyfaddef bod gwaith i wella diogelwch cleifion yn y maes hwn yn parhau ond eu bod yn disgwyl i unrhyw ddigwyddiad lle mae diogelwch claf yn cael ei beryglu i gael ei ymchwilio'n drylwyr, yn unol â'r polisi adrodd digwyddiadau cenedlaethol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn datganiad eu bod ers 2016 wedi bod yn cael gwared ar bwyntiau crogi uchel mewn unedau iechyd meddwl i leihau risg hunanladdiadau a'u bod, fel byrddau iechyd eraill Cymru, yn dilyn canllawiau cenedlaethol i adolygu, lleihau a rheoli risgiau mae pwyntiau crogi yn gallu achosi.