Ymgyrch i ddathlu celfyddydau o Gymru yn yr Almaen
Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal digwyddiad fydd yn dathlu llenyddiaeth, theatr a cherddoriaeth o Gymru yn yr Almaen.
Mae’r corff yn cynnal y digwyddiad fel rhan o Flwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021.
Fel rhan o’r arlwy, bydd cyfraniadau gan y dramodydd, Gary Owen, y beirdd Ifor ap Glyn a Mererid Hopwood, a’r gantores Kizzy Crawford.
Nod yr ymgyrch, Lleisiau Cymru, yw arddangos ystod y gweithgareddau sy’n digwydd rhwng Cymru a'r Almaen, gan gynnwys masnach, gwyddoniaeth a diwylliant.
Bydd y digwyddiad yn arddangos llenyddiaeth, theatr a cherddoriaeth o Gymru mewn tair iaith.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei chynnal nos Fawrth, yn gymysgedd o elfennau byw a rhai wedi’u recordio o flaen llaw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru: "Mae Cymru yn yr Almaen 2021 yn dathlu’r cysylltiadau hanesyddol agos rhwng Cymru a'r Almaen, gan arddangos y berthynas hon a chreu cysylltiadau newydd mewn digwyddiadau sy'n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.
"Mae noson “Lleisiau o Gymru” yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llenyddiaeth Cymru, British Council Cymru a Literaturbüro Westniedersachsen i ddathlu a mwynhau llenyddiaeth, theatr a cherddoriaeth o Gymru.
"Bydd y digwyddiad digidol tairieithog (Cymraeg, Saesneg, Almaeneg) yn galluogi i gynulleidfaoedd yn yr Almaen, Cymru a ledled y byd werthfawrogi diwylliant Cymru yn eu hiaith eu hunain a chryfhau'r cysylltiadau rhwng ein gwledydd."
Llun: Llenyddiaeth Cymru