Storm Ida: Biden yn cyhoeddi trychineb yn Efrog Newydd a New Jersey

Mae Arlywydd yr UDA, Joe Biden, wedi cyhoeddi trychineb mawr yn Efrog Newydd a New Jersey ar ôl i ddwsinau o bobl gael eu lladd yn Storm Ida.
Daeth y corwynt â lefelau hanesyddol o law a gwynt i’r ardal wythnos diwethaf.
Yn ôl yr Independent, bu farw o leiaf 27 o bobl yn New Jersey ac 13 yn Efrog Newydd.
Mae’r Arlywydd Biden wedi trefnu cymorth ffederal i’r ddwy dalaith i helpu gyda’r gwaith adfer. Bydd yn ymweld â’r ardaloedd ddydd Mawrth.
Darllenwch y stori’n llawn yma.