Aled Sion Davies yn troi ei sylw at Gemau Paris a thu hwnt

Aled Sion Davies yn troi ei sylw at Gemau Paris a thu hwnt
Ar ôl llwyddo i amddiffyn ei deitl a chipio'r fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo mae Aled Sion Davies eisoes wedi troi ei sylw at Gemau Paris yn 2024.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd y Cymro ei fod dal i geisio dygymod a'i lwyddiant eleni.
"Mae mor anodd i roi mewn geiriau ar hyn o bryd, dwi dal i drio cymryd fewn beth sydd wedi digwydd," dywedodd.
Dydd Sadwrn enillodd Davies gystadleuaeth F63 taflu pwysau.
Dyma'r drydedd fedal aur i'r athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr ei hennill yn y Gemau Paralympaidd, ar ôl iddo ddod i'r brig yn Rio de Janeiro ac yn Llundain.
Dywedodd: "Roedd y glaw yn Tokyo mor anodd i daflu ynddo - oedd hi mor anodd i gadw'r dechneg gyda'i gilydd, ond o'n i wedi neud y swydd a dod 'nôl adre efo'r lliw o'n i eisiau.
“Ar hyn o bryd dwi jyst yn mynd i fwynhau'r fuddugoliaeth yma, mae wedi bod yn rili galed.
“Ond yn y llun mawr wrth gwrs bo fi'n mynd i fod yn gweithio tuag at Paris.
"Mae 'na sawl peth sydd wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf, a does dim ond tair blynedd at Paris nawr so wrth gwrs fi'n mynd i fod yn gweithio at hwnna.
"A fi'n credu fi'n mynd i fod yn gweithio tuag at LA hefyd yn 2028.
"Fi'n mynd i fod o gwmpas am amser eto."