Caniatáu bendithio priodasau cyplau o’r un rhyw yn eglwysi Cymru

Caniatáu bendithio priodasau cyplau o’r un rhyw yn eglwysi Cymru
Fe fydd hawl gan gyplau o’r un rhyw gael gwasanaeth mewn eglwys i fendithio’u priodasau.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid y cynnig gafodd ei drafod gan y Corff Llywodraethu ddydd Llun.
Roedd y Bil yn cynnig bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n arbrofol am bum mlynedd, gyda’r mater yn un i glerigwyr unigol benderfynu os ydyn nhw’n dymuno arwain y gwasanaeth.
Cyn y bleidlais, dywedodd Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru, Andy John, ei fod yn ymwybodol o bryderon gan rai am y Bil, “sy’n ei ystyried fel ymadawiad o air Crist”.
Dywedodd yr Esgob: “Ond mae pob datblygiad yn ymadawiad i ryw raddau; mae rhywbeth yn newid pryd bynnag mae datganiad newydd o ymarfer”.
Ychwanegodd: “Rhaid i ‘awdurdod y ddoe tragwyddol’ beidio bod yn faen melin o amgylch ein gyddfau ond rhoi sail ar gyfer croesawu’n ddewr yr hyn mae Duw yn ei wneud yn y byd o’n hamgylch.
“Mae cenhadaeth bob amser wrth galon ffydd. Ac mae bod yn fyw i Dduw, i’r hyn a allai ddigwydd nesaf, yn rhan o barhau’n chwilfrydig ac agored i gyfleoedd newydd”.
Mae’r gwasanaethau newydd yn cynnig bendith yn unig ac ni fydd cyplau o’r un rhyw yn gallu priodi mewn eglwysi yn dilyn y bleidlais.
Mae penderfyniad yr Eglwys yng Nghymru i fendithio priodasau cyplau o’r un rhyw yn "gam enfawr ymlaen" yn ôl Iestyn Wyn o Stonewall Cymru.
Ond mae'n cydnabod fod y siwrne at gydraddoldeb i bobl LHDTC+ yn parhau.