Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth yn dilyn 'ymosodiad' ar bump o bobl yng Nghaerdydd

06/09/2021
S4C

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth ar ôl ymosodiad ar bump o bobl yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Cafodd pedwar bachgen yn eu harddegau a dyn 20 oed eu cludo i'r ysbyty tua 14:45, cyn cael eu rhyddhau ar yr un diwrnod.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y pump "fân anafiadau" yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd y Ddinas.

Er gwaethaf adroddiadau o "ymosodiad asid", daeth cadarnhad mai Amonia gafodd ei ddefnyddio, ar ffurf fel hylif clir wedi ei chwistrellu.

Dywedodd yr heddlu bod Amonia'n cael ei ddefnyddio'n aml mewn cynnyrch glanhau.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw un sydd â deunydd ffilm ar eu ffonau symudol neu ddyfeisiadau dashcam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod *312749.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.