Haf Bach Mihangel ar y ffordd i Gymru

Fe allai rhannau o Gymru brofi Haf Bach Mihangel yr wythnos hon wrth i’r Swyddfa Dywydd ddarogan tymereddau o hyd at 30°C.
Gyda’r haf wedi dirwyn i ben a phlant wedi dychwelyd yn ôl i’r ysgol, mae’n bosib y bydd hi’n dywydd glan môr unwaith eto wedi'r cyfan.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai hi fod yn 27°C neu 28°C yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, a 29°C ym Mhorthmadog.
Dywed WalesOnline y bydd y tywydd yn gynhesach na’r un diwrnod yn ystod mis Awst, lle welwyd tywydd diflas a glawog ar brydiau.
Darllenwch y stori’n llawn yma.