Enwi tîm Cymru fydd yn herio Belarws
Bydd Cymru yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Belarws brynhawn Sul mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
Mae tîm Rob Page wedi ei enwi, gyda Danny Ward, Chris Gunter, Chris Mepham, James Lawrence, Ben Davies, Joe Allen, Joe Morrell, Gareth Bale, Daniel James, Brennan Johnson a Rubin Colwill wedi eu dewis i ddechrau'r gêm.
Hefyd wedi eu henwi mae Wayne Hennessey, Tom King, Tom Lockyer, Rhys Norrington-Davies, Jonny Williams, Matthew Smith, Dylan Levitt, Mark Harris, Ben Woodburn a Josh Sheehan.
Mae nifer o chwaraewyr y garfan yn absennol oherwydd anafiadau, problemau fisa a Covid-19.
Ni fydd Aaron Ramsey, Joe Rodon, George Thomas a Neco Williams yn ymddangos nos Sul oherwydd anafiadau, tra bod Kieffer Moore yn hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad ag Adam Davies, sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.
Bydd Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper yn methu’r gêm ddydd Sul oherwydd problemau gyda'u fisa.
Cafodd y gêm ei symud i Kazan yn Rwsia fel bod modd ei lleoli mewn lleoliad niwtral, gan nad oes hawl i dimoedd o’r DU a’r UE deithio i Felarws oherwydd sancsiynau yn erbyn eu llywodraeth.
Y ffefrynnau i ennill, mae Cymru wedi sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Belarws yn ystod pedwar o’u pum gêm ddiwethaf, y fwyaf diweddar yn 2019.
Gêm ddi-sgôr oedd hi i Gymru yn erbyn y Ffindir mewn gêm gyfeillgar nos Fercher, gyda’r garfan yn gobeithio am ddechrau cryf brynhawn Sul cyn iddynt herio Estonia'r wythnos nesaf.
Bydd y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C brynhawn Sul, gyda’r sylwebaeth yn dechrau am 13:30.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans