Protest hawliau menywod yn cael ei chwalu gan y Taliban yn Kabul

Mae’r Taliban wedi chwalu protest hawliau menywod yn Kabul drwy saethu gynnau i’r awyr a defnyddio nwy dagrau a thasers, yn ôl llygaid dystion.
Fe wnaeth menywod orymdeithio drwy’r brifddinas yn Affganistan am yr ail ddiwrnod yn olynol ddydd Sadwrn, yn galw am warantu eu rhyddid o dan y drefn newydd.
Dechreuodd y brotest yn heddychlon, gyda nifer o fenywod yn gosod torchau o flodau y tu allan i’r weinidogaeth amddiffyn i gofio milwyr Affganistan fu farw yn ymladd yn erbyn y Taliban.
Ond, wrth i’r gweiddi gynyddu, fe ruthrodd filwyr y Taliban i’r dorf.
Mae'r Taliban wedi addo dro ar ôl tro i gefnogi hawliau menywod ers cipio grym y mis diwethaf.
Ond, mae llawer yn amheus, gydag adroddiadau bod milwyr eisoes wedi torri eu haddewid, yn ôl Sky News.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: Twitter/ @mortazabehboudi