Newyddion S4C

Aled Davies yn gobeithio amddiffyn ei deitl yn Tokyo

04/09/2021
S4C

Bydd y Cymro Aled Davies yn gobeithio amddiffyn ei deitl yn y gemau Paralympaidd yn Tokyo ddydd Sadwrn.

Ac yntau eisoes wedi ennill dwy fedal aur yn Llundain a Rio, bydd y gŵr o Ben-y-bont ar Ogwr yn anelu am aur arall yng nghystadleuaeth y taflu pwysau.

Mewn blwyddyn heb ei thebyg, mae’r athletwr 30 oed wedi siarad yn agored am y ffordd mae’r pandemig wedi effeithio ar ei hyfforddiant. 

Cyn y gystadleuaeth, dywedodd ei bod wedi bod yn “anodd iawn i annog” ei hun.

Ychwanegodd fod yr ansicrwydd ynghylch y gemau Paralympaidd yn gwneud hyfforddi yn anodd, gan ddisgrifio’r sefyllfa fel “hunllef”.

“Pan aethon ni dan glo, i ddechrau, roedd Tokyo yn dal i fynd ymlaen a fy meddwl ar unwaith oedd, ‘sut mae paratoi i gystadlu am fedal aur ymhen ychydig fisoedd yn fy ngardd gefn?’

“Yn ffodus, roeddwn i’n gallu troi’r garej yn gampfa ac fe wnes i adeiladu cylch taflu a rhoi ychydig o ddur gyda rhwyd rhwng fy nghoeden afal a gellyg, a thaflu mewn i hynny.

“Roedd yn brofiad gwahanol iawn, ond ar yr un pryd roedd yn adeiladu cymeriad ac roedd rhaid i mi addasu i’r her - roeddwn i wrth fy modd.”

Er gwaethaf yr heriau, mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i Davies, a ddaeth yn dad i ferch fach newydd ychydig cyn y cyfnod clo.

 Mae hefyd yn un o sêr cyfres newydd o Celebrity SAS: Who Dares Wins Channel 4.

Bydd Davies yn cystadlu ychydig wedi 11:30 fore Sadwrn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.