Newyddion S4C

Galw am roi’r gorau i letya pobl ddigartref i 'arbed twristiaeth'

ITV Cymru 04/09/2021

Galw am roi’r gorau i letya pobl ddigartref i 'arbed twristiaeth'

Mae rhai busnesau yn Llandudno wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu rheol sydd yn caniatáu i bobl ddigartref gael lloches mewn llety gwyliau am eu bod yn ofni am eu heffaith ar dwristiaeth yr ardal.

Cafodd ddeddfwriaeth frys ei chyflwyno gan y Llywodraeth ar ddechrau’r pandemig sydd yn galluogi i bobl ddigartref aros mewn llety gwyliau, er mwyn eu cael nhw oddi ar y strydoedd. 

Ond, mae grŵp o fusnesau yn Llandudno wedi rhybuddio y gallai hyn ddirywio twristiaeth, ond fe wnaeth elusen digartrefedd Shelter Cymru ddweud fod “dim tystiolaeth” i brofi fod y rheol wedi cael effaith negyddol ar y diwydiant.

Wedi i Gyngor Conwy roi lloches i bobl ddigartref mewn llety gwyliau yn Llandudno, fe wnaeth Cymdeithas Lletygarwch Llandudno alw am ddiwedd i’r ddeddfwriaeth frys. 

Fe rybuddion nhw y gallai hi leihau faint o lety sydd ar gael i dwristiaid yn yr ardal ac arwain at broblemau economaidd a chymdeithasol fel rhai a welwyd ym Mae Colwyn a Rhyl dros y degawdau diwethaf.

Dywedodd Cyngor Conwy fod llety i’r digartref yn brin yn yr ardal, a bod yna 500 o bobl ddigartref sydd angen llety ar hyn o bryd.

‘Mae’r amgylchiadau wedi newid’

Un arall sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared â’r rheol yw Janet Finch-Saunders, Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy.

Fe ddywedodd hi y dylai Llywodraeth Cymru ddod i hyd i rywle arall i letya’r digartref gan fod y ddeddfwriaeth yn “tanseilio” Cynllun Datblygu Lleol Conwy, sydd yn gwahardd defnyddio llety o fewn Ardal Llety Gwyliau at ddiben heblaw twristiaeth.

“Fe ddylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru sicrhau darpariaeth ac arian i wneud yn siŵr fod gennym ni lety diogel ar gyfer pobl ddigartref,” meddai hi, gan ddweud nad oedd llety gwyliau yn le “addas” ar eu cyfer.

Image
Janet Finch Saunders
Janet Finch-Saunders, Aelod Seneddol dros Aberconwy, yn dweud y dylai cael gwared ar y gyfraith. [Llun: ITV Cymru]

“Mewn gwirionedd, rydyn ni’n hynod o brin o lety gwyliau,” meddai’r Aelod Seneddol.

“Er fy mod i’n gwerthfawrogi’r amgylchiadau eithriadol a arweiniodd at y newid deddfwriaethol sydd yn caniatáu i westyau newid i fod yn llety dros-dro heb ymgeisio am ganiatâd, a bod yna alw sylweddol am lety brys, mae hi’n anghywir fod llety gwyliau yng nghanol y sector yn cael ei golli er gwaethaf yr amddiffyniad clir sydd wedi ei gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.”

“Mae’r amgylchiadau wedi newid. Fe ddylai’r gyfraith nawr newid.”

‘Dim tystiolaeth'

Ond fe wnaeth llefarydd ar ran elusen digartrefedd Shelter Cymru wadu’r honiadau fod y ddeddfwriaeth yn bygwth y diwydiant twristiaeth yn y gogledd, gan ddweud y dylai’r Llywodraeth gadw’r rheol newydd mewn lle am y tro.

“Mae’r ddeddfwriaeth frys yma ddaeth i rym pan ddaeth Covid i’n plith ni 18 mis yn ôl wedi bod yn achubiaeth bywyd, yn llythrennol, i nifer fawr o bobl ddigartref ar y stryd,” meddai Heddyr Gregory o Shelter Cymru.

Mae yna 6,000 o bobl yn byw mewn llety dros-dro yng Nghymru, dywedodd Ms Gregory, ac mae 1,400 ohonynt yn blant.

“Does yna ddim tystiolaeth o’r fath yn y byd i ddangos bod y diwydiant twristiaeth yn dioddef oherwydd y ddeddfwriaeth. Does yna ddim tystiolaeth i ddangos bod yna brinder llety gwyliau – i’r gwrthwyneb i ddweud y gwir, oherwydd rydyn ni wedi gweld yn gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf faint o dai haf, faint o Airbnbs sydd yn yr ardaloedd yma.”

Image
Shelter Cymru
Heddyr Gregory, o adran y wasg yn yr elusen Shelter Cymru. [Llun: ITV Cymru]

“Felly na, dydyn ni ddim yn derbyn o gwbl fod hyn yn cael effaith ar y diwydiant twristiaeth.”

Ond, dywedodd Ms Gregory, fe hoffai’r elusen weld gwell opsiwn yn cael ei gynnig i bobl ddigartref.

“Er ein bod ni wedi gweld cynnydd o 300% yn y nifer o bobl sy’n byw mewn llety dros dro ers cychwyn y pandemig yma, dydy e ddim yn ateb.”

“Dydy llety dros dro ddim yn rhywle y gellir ei alw yn gartref parhaol.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gweithio i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu gadael heb loches, a’i bod wedi gweithio gyda’r sector twristiaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.