Prinder gofalwyr yn sefyllfa ‘enbyd’
Prinder gofalwyr yn sefyllfa ‘enbyd’
Mae darparwyr gofal ac elusennau yn galw am fwy o arian i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn ceisio datrys y broblem prinder gofalwyr.
Mae un darparwr gofal wedi disgrifio’r prinder gofalwyr cartref ar draws Cymru yn sefyllfa “enbyd”.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd Joe Guishard o gwmni gofalwyr ‘Right at home’ bod diffyg gofalwyr yn cael effaith enfawr.
“Ar hyn o bryd rydym ar nifer gyfyngedig o ofalwyr yn y sector gofal sy'n gallu darparu'r gofal sy'n ofynnol, ac mae hynny'n cael effaith enfawr.
“Mae’n golygu bod rhai cleientiaid yn mynd heb ofal. Mae cymaint o bwysau ar y diwydiant hwn ar hyn o bryd.
“Os na fyddwn yn gwneud rhywbeth yn fuan, mae’n bosib bydd y canlyniadau yn ddifrifol.”
Mae elusen Age Cymru hefyd yn gofidio am oblygiadau diffyg gofalwyr.
Dywedodd Deiniol Jones o’r elusen: “Ni’n cael nifer o esiamplau lle mae pobl yn dweud bod staff wedi dod mewn a jysd wedi gwneud y prin fan bethau, fel meddyginiaeth a gorfod gadael wedyn mewn cwpwl o funudau, yn lle rhoi gofal llawn.
“Ni di cael un sefyllfa lle oedd yr hen berson yn dweud bod nhw’n gweld gofalwr newydd bron bob dydd, mae hynny’n effeithio ar hyder y berthynas.
“A hefyd ni di cael esiamplau o bobl yn cael eu gollwng o’r ysbyty heb unrhyw fath o gefnogaeth mewn lle.”
Yswiriant gwladol
Mae’n debyg bod sawl ffactor yn gyfrifol am y prinder mewn gofalwyr gan gynnwys cyflogau isel, Brexit a'r pandemig
Mae Llywodraeth San Steffan wedi sôn am godi yswiriant gwladol i ariannu gwelliant i’r gwasanaethau ar draws y Deyrnas Unedig, ond dydyn nhw heb gadarnhau na gwadu’r cynlluniau hynny eto.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r llywodraeth yn croesawu codi trethi ar lefel Brydeinig er mwyn helpu’r sefyllfa, ond bod angen i bobl sydd ar yr incwm isaf gael eu gwarchod.
“Os bydd Yswiriant Gwladol neu unrhyw dreth arall yn y DU yn codi gan Lywodraeth y DU i ariannu gofal cymdeithasol, byddai hyn yn golygu mwy o arian i Gymru y byddai gweinidogion yng Nghymru yn gallu ei ddefnyddio i wella gwasanaethau yng Nghymru.
“Rydym yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw newidiadau treth yn deg ac yn amddiffyn y rhai sydd ar incwm is."