Ymateb cymysg i’r syniad o godi tollau ffyrdd

Ymateb cymysg i’r syniad o godi tollau ffyrdd
Mae’r syniad o gyflwyno tollau ar ddau o ffyrdd prysuraf Cymru wedi derbyn ymateb cymysg.
Daw’r ymateb ar ôl i Lywodraeth Cymru ofyn am farn y cyhoedd i’r syniad o godi tâl ar rai cerbydau i ddefnyddio rhannau o draffyrdd yr M4 a’r A470, mewn ymgais i fynd i’r afael a llygredd aer.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer taliadau tagfeydd.”
Ymateb Cymysg
Mae Philip Thomas, perchennog Bragdy Twt Lol ymysg y rhai sy’n meddwl bod y syniad ddim yn un call.
“Mae pobl yn mynd i angen teithio ar hyd yr A470. Dwi'n sylwi yn y bore 'ma 'na shwd gymaint o fans ar yr hewl hefyd maen nhw ffili dal trafnidiaeth gyhoeddus.
“Maen nhw'n gorfod teithio gyda'i fan achos y tools a'r holl lwytho mae nhw'n gorfod neud. Gyda fi er enghraifft, dwi'n gyrru fan er mwyn llwytho cwrw o le i le. Wel beth ydw i'n mynd i neud, cymryd casgen ar y trên?”
Ond mae eraill yn fwy agored i’r syniad, mae Trystan Dafydd, Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol yn credu gall yr arian sy’n cael ei chasglu cael ei fuddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal.
“Mae angen rhywfaint o dâl yn ym marn i mewn mannau. Ond mae angen hefyd lot fwy o fuddsoddiad ac annog pobl ar yr ochr arall hefyd.
“Mae'r gost yn mynd i gael ei ysgwyddo gan yrrwr ac felly mae 'na gwpl o gwestiynau am hyn, beth yw lefel y tâl?
“A'r ail gwestiwn i fi yw, faint o'r buddsoddiad sy'n cael ei godi gan y tâl sy'n cael ei ail fuddsoddi mewn i drafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth gynaliadwy?”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y gallai codi tollau wella ansawdd yr aer yn yr ardaloedd penodol.
"Mewn darn o waith ar wahân, yn unol â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i leihau lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid, rydym wedi comisiynu arolygon i gael barn pobl ar gynigion Parthau Aer Glân ar yr M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 yng Nghasnewydd ac ar yr A470 rhwng Glan-Bad a Pontypridd."