Croeso cynnes adre i ddwy seren Olympaidd

Croeso cynnes adre i ddwy seren Olympaidd
Mae cannoedd wedi ymgynnull mewn dwy dref yng nghymoedd y de i ddathlu llwyddiant dwy seren o Gymru yn Gemau Olympaidd Tokyo 2020.
Fe deithiodd y bencampwraig bocsio Lauren Price, ac enillydd y fedal arian, Lauren Williams, trwy Ystrad Mynach a’r Coed Duon dydd Gwener.
Price yw’r bocsiwr cyntaf o Gymru i ennill medal aur yn y gemau Olympaidd, wedi iddi guro Li Qian o China yn rownd derfynol pwysau canol y menywod.
Cipiodd Williams arian yn y taekwondo i fenywod -67kg ar ôl colli'r rownd derfynol i Matea Jelic o Groatia.
Mae Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies, wedi disgrifio’r ddwy fel “ysbrydoliaeth”.
“Ti'mod nid jyst y perfformiad maen nhw 'di roi fewn i ennill y medalau, ond y ffordd maen nhw'n ymddwyn, y ffordd maen nhw'n cario'u hunain mae hwnna'n gwers bwysig i blant ifanc y lleoliad a'r gymuned.
“Ac mae'r ddwy ferch yma, maen nhw'n ymddwyn mor broffesiynol.
“Ac mae'r llwyddiant 'di dod hefyd so mae pecyn gwych 'da ni i ddangos i ferched a phobl ifanc y gymuned: Dyma beth allwch chi gyflawni, er bod chi'n dod o Gaerffili.”