Newyddion S4C

Llywodraeth San Steffan yn ystyried trethu er mwyn adfer gofal cymdeithasol yn Lloegr

The Independent 03/09/2021
Boris Johnson Downing Street
Boris Johnson Downing Street

Mae disgwyl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, gyhoeddi ei gynlluniau i geisio adfer gofal cymdeithasol yn Lloegr wythnos nesaf.

Dywed The Independent fod Mr Johnson yn cynllunio cynyddu taliadau Yswiriant Gwladol er mwyn ariannu newidiadau mewn cyllidau ac i ddelio gyda rhestr aros y GIG.

Er hyn, mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn parhau i ddadlau ynghylch faint o godiad fyddai ei angen yn y dreth er mwyn talu am y newidiadau. 

Daw hyn dwy flynedd ers i’r prif weinidog addo ym maniffesto'r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad 2019 y byddai’n cynnig “cynllun clir” i warchod y genhedlaeth hŷn.

Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C eu bod yn croesawu newidiadau a fyddai'n gwarchod y sector, ond nad oedden nhw wedi gweld “cynlluniau cadarn” hyd yn hyn.

 “Ar lefel y Deyrnas Unedig, rydym yn gefnogol o newidiadau fydd yn cynnig cyllid ychwanegol i ofal cymdeithasol sydd wir angen yr arian,” dywedodd y llefarydd.

“Mae llywodraethau'r Deyrnas Unedig dro ar ôl tro wedi addo gweithredu yn y maes hwn, ond nid ydym wedi gweld unrhyw fanylion na chynlluniau cadarn hyd yn hyn.

“Rydym wedi cynnig gweithio gyda Llywodraeth y DU ar yr agenda, drwy gynnig gwybodaeth a chanlyniadau gwaith sylweddol rydym wedi ei wneud yma yng Nghymru gyda Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol.

“Os bydd Yswiriant Gwladol neu unrhyw dreth arall yn y DU yn codi gan Lywodraeth y DU i ariannu gofal cymdeithasol, byddai hyn yn golygu mwy o arian i Gymru y byddai gweinidogion yng Nghymru yn gallu ei ddefnyddio i wella gwasanaethau yng Nghymru.

“Rydym yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw newidiadau treth yn deg ac yn amddiffyn y rhai sydd ar incwm is."

Darllenwch y stori'n llawn yma

Llun: Llywodraeth y DU

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.