Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Y Barri
03/09/2021
Heddlu.
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod swyddogion yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn yn Y Barri.
Mae marwolaeth y dyn mewn eiddo ar West Walk yn y dref yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth.
Fe gyrhaeddodd swyddogion yr eiddo am tua 01:00 fore dydd Gwener ac maen nhw'n parhau i fod yn bresennol wrth i'w hymchwiliadau barhau.
Mae dyn 53 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae ystafell ddigwyddiad wedi ei sefydlu yn Ngorsaf Heddlu Caerdydd Canolog.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynghylch y digwyddiad i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100309626.