Newyddion S4C

Cau ward yn Ysbyty Glangwili oherwydd clwstwr o Covid-19

Newyddion S4C 02/09/2021

Cau ward yn Ysbyty Glangwili oherwydd clwstwr o Covid-19

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi fod ward yn Ysbyty Glangwili wedi ei chau oherwydd clwstwr o achosion Covid-19. 

Ni fydd y ward yn derbyn cleifion nag ymwelwyr o ganlyniad. 

Mae camau ychwanegol hefyd yn cael eu cymryd mewn dwy ward arall yn yr ysbyty yng Nghaerfyrddin.

Mae llawdriniaethau hefyd wedi eu gohirio mewn dau ysbyty i leihau pwysau ar wasanaethau, medd y bwrdd. 

Ni fydd llawdriniaethau Orthopedig yn mynd yn eu blaen yn Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.

Dywed y bwrdd fod hyn yn galluogi’r ysbytai i ddarparu mwy o welyau mewn ardaloedd lle nad yw Covid yn bresennol. 

Bydd gwaith theatr, triniaethau ac ymchwiliadau sylweddol yn mynd yn eu blaen, serch hynny. 

Roedd 33 o gleifion yn derbyn triniaeth ar gyfer Covid-19 yn ysbytai Hywel Dda ar 1 Medi. 

Mae’r gyfradd o achosion fesul 100,000 o bobl yn 425.2 yn ardal Sir Benfro, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru, 411.4. 

402.6 yw’r gyfradd yn Sir Gaerfyrddin, a 332.9 yng Ngheredigion. 

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Ar ran y bwrdd, hoffwn yn gyntaf sicrhau i’n cymunedau mai'r hyn yr ydym yn ei wneud yw diogelu cleifion." 

Ychwanegodd fod gwasanaethau brys ar gael i'w defnyddio, ond mae'n annog pobl i fod yn ofalus er mwyn ceisio lleihau lledaeniad o'r feirws. 

“Mae’r cynnydd mewn achosion yn Hywel Dda yn dangos, er nad yw derbyniadau mewn ysbytai mor uchel ac mewn tonnau blaenorol, mae Covid-19 yn parhau yn berygl difrifol i’n hiechyd a’n gwasanaeth iechyd,” meddai. 

Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Sam Kurtz, ei fod yn sefyllfa "siomedig".

“Mae’n siomedig ‘da ni yn y sefyllfa yma unwaith eto, ond dwi’n credu mai’r rheolau sydd gyda ni ar hyn o bryd yn rheolau da.

“Mae angen i ni ddelio efo pethe' fel hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.