
Gweinidog a gwleidydd dadleuol yn ymddiswyddo wedi 15 mlynedd

Mae Pregethwr a gwleidydd dadleuol wedi ymddiswyddo o'i waith fel Gweinidog ar bump o gapeli yn Sir Gaerfyrddin.
Mewn llythyr sydd wedi dod i law rhaglen Newyddion S4C, mae ysgrifenyddion Capel y Graig, Trelech, Sir Gaerfyrddin, yn cadarnhau bod y Parchedig Ddoctor Felix Aubel wedi ymddiswyddo, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth dros y 15 mlynedd diwethaf.
Roedd hefyd yn Weinidog ar Gapeli Annibynnol Penybont, Fynnonbedr, Bwlchnewydd a Chapel Cendy.
Mae rhaglen Newyddion S4C ar ddeall fod rhai o sylwadau Dr Aubel yn y gorffennol wedi achosi tensiynau o fewn ei ofalaeth.
Dywedodd Felix Aubel wrth Newyddion S4C fod "dim sylw o gwbl" ganddo fe i wneud o ran amgylchiadau ei ymddiswyddiad.
Yn gymeriad lliwgar ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu S4C, mae Dr Aubel wedi sefyll mewn sawl etholiad a thros sawl plaid wleidyddol.
Dechreuodd ei yrfa mewn gwleidyddiaeth drwy sefyll dros blaid yr SDP yng Nghwm Cynon yn ystod etholiad cyffredinol 1983. Ymunodd wedyn â'r blaid Geidwadol. Daeth o fewn i 750 o bleidleisiau i gipio sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed ar eu rhan nhw yn etholiad cyffredinol 2001.
Yn fwy diweddar, fe oedd trefnydd gorllewin Cymru ar gyfer ymgyrch Vote Leave i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fe safodd wedyn dros blaid UKIP yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai eleni, gan fethu ennill sedd yn etholaeth Delyn a rhanbarth gogledd Cymru.

Mae e hefyd yn ffigwr dadleuol.
Yn 2017, cafodd Dr Aubel, sydd hefyd yn hanesydd, ei feirniadu gan Undeb yr Annibynwyr am ddefnyddio iaith "hollol annerbyniol" a "gwrthun" wrth ymateb i flogiwr asgell-dde eithafol mewn trydariad gan ofyn: "Pryd fydd Ewrop Gristnogaidd heddiw yn dweud 'digon yw digon' fel ag y gwnaeth Cristnogion Sbaenaidd diwedd y Canol Oesoedd?"
Yn ystod cyfnod Chwil-lys Sbaen (y 'Spanish Inquisition') yn y Canol Oesoedd, roedd Mwslemiaid ac Iddewon ymysg y rhai cafodd eu herlid gan Gatholigion Sbaen. Cafodd aelodau'r cymunedau crefyddol rheiny eu gwahardd o Sbaen mewn cyfnod ddaeth yn ddrwgenwog oherwydd y trais a welwyd.
Ymddiheurodd Felix Aubel yn ddiweddarach am y sylwadau yna, gan ddweud wrth BBC Cymru ei fod e'n "gofyn cwestiwn pen-agored...a ddim yn gwneud datganiad" ac nad oedd e'n "cytuno gydag unrhyw ragfarn grefyddol na hiliol fel rhywun o dras cymysg fy hun".
'Sylwadau anghristnogol'
Yn gynharach eleni, ymddangosodd ar sianel YouTube Voice of Wales ac fe gafodd ei labelu yn hiliol gan wleidyddion amlwg.
Roedd hefyd wedi cefnogi a chlodfori'r sianel honno ar wefannau cymdeithasol. Wedi ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C, dilewyd y sianel gan YouTube.
Mae rhaglen Newyddion S4C yn deall i'r digwyddiadau yma greu tensiynau a rhwygiadau o fewn i'w ofalaeth, gyda rhai yn teimlo bod ei ddaliadau yn "anghristnogol".
Fe ymddiswyddodd Dr Aubel o'i swydd fel Gweinidog ar 31 Awst. Mewn llythyr i aelodau, fe wnaeth tri o ysgrifenyddion Capel y Graig ddiolch iddo am ei waith fel Gweinidog ers 2006 ac yn dymuno'r gorau iddo at y dyfodol.