Baner Jac yr Undeb tu allan i feddygfa yn codi gwrychyn
Mae baner Jac yr Undeb tu allan i feddygfa mewn tref yng Ngwynedd wedi codi gwrychyn nifer yn lleol.
Nos Fercher fe ofynnodd y canwr Gai Toms pam fod angen baner o'r fath tu allan i feddygfa ym Mlaenau Ffestiniog.
"Siŵr allwn ni gofio a pharchu dewrion rhyfeloedd mawr efo'r ddraig goch yn unig, allwn?!", gofynnodd mewn neges ar ei gyfrif Twitter.
Ychwanegodd fod iechyd wedi ei ddatganoli, mewn neges wedi ei gyfeirio at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Chyngor Tref Ffestiniog.
Aeth ymlaen i ofyn "os oedd angen baneri tu allan i ganolfan iechyd", gan bwysleisio nad oedd yn cwyno am feddygfa Canolfan Goffa Ffestiniog, ond am y faner oedd yno.
Daeth ymateb chwyrn i'w neges o sawl cyfeiriad ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda Barbara Jones yn gofyn "pwy goblyn sydd wedi codi Jac yr Undeb yn y lle cyntaf?"
Nid oedd meddygfa Canolfan Goffa Ffestiniog na Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn awyddus i ymateb i sylwadau Gai Toms ar gais Newyddion S4C.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Gyngor Tref Ffestiniog ac i'r Lleng Brydeinig am ymateb.
Llun: @gaitoms (Twitter)