Newyddion S4C

Angen creu ‘clymblaid ryngwladol’ i ddylanwadu ar y Taliban

Sky News 02/09/2021
Dominic Raab

Mae Gweinidog Tramor y DU wedi dweud bod angen “cyfraniad ehangach” gan wledydd yn y rhanbarthau o amgylch Affganistan i gael y dylanwad mwyaf ar y Taliban.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Doha, Qatar, dywedodd Dominic Raab fod angen ffurfio "clymblaid ryngwladol" i "roi'r dylanwad cymedroli mwyaf" ar y Taliban ar ôl iddynt gymryd rheolaeth o’r wlad.

Er i’r Gweinidog Tramor ddweud bod “lle i ymgysylltu” gyda’r Taliban, dywedodd nad oes gan y DU gynlluniau ar hyn o bryd i gydnabod y grŵp fel llywodraeth.

Dywedodd Gweinidog Tramor Qatar, Sheikh Mohammed bin Abdulrahman al Thani, oedd hefyd yn yr un gynhadledd i’r wasg, eu bod yn siarad gyda’r Taliban ac yn gweithio gyda Thwrci i weld a allant ddarparu cefnogaeth i ailgychwyn hediadau ym maes awyr Kabul.

Serch hynny, nid oedd yn gallu darparu unrhyw amserlen ar gyfer hyn.

Mae Sky News yn dweud eu bod ar ddeall y gallai hyn fod yn wythnosau, yn hytrach na dyddiau.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Llun: Twitter/ @kennethstewart

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.