Athletwr o Abertawe wedi ei barlysu ar ôl damwain beic ddifrifol

Wales Online 02/09/2021
S4C

Mae athletwr 37 oed o Abertawe wedi ei barlysu o’i wddf i lawr ar ôl syrthio oddi ar ei feic ar gyflymder uchel mewn triathlon yn yr Alban.

Roedd Nathan Ford o ardal Killay ar y blaen ym Mhencampwriaethau Triathlon Prydeinig yn Aberfeldy pan gafodd y ddamwain.

Yn ôl Wales Online, dydy Mr Ford ddim yn gallu symud ei gorff nag anadlu heb gymorth.

Dywedodd ei ffrind agos, Richard Jellyman fod y “cyfan wedi dod fel sioc enfawr”.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Llun: Nathan Ford

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.