
‘Annheg’ bod cyfyngiadau ymwelwyr yn parhau mewn rhai cartrefi gofal

Mae mab o Bontypridd yn dweud ei bod hi’n annheg bod rhai cartrefi gofal yn cadw cyfyngiadau i ymwelwyr yng Nghymru.
Er bod cyfyngiadau wedi llacio dan Lefel Rybudd Sero, mae Lawrence Jones yn dweud ei fod yn “colli amser” gyda’i fam, Sarah, sydd yn byw mewn cartref gofal ac yn dioddef o gyflwr Dementia fasgwlaidd.
“Mae’n anodd iawn pan wyt ti’n gweld pawb yn mwynhau ar y penwythnos ar y traeth a galla i ddim gweld fy mam… oherwydd dydw i ddim yn gwybod faint o amser sydd gen i ar ôl gyda hi, gan fod ei dementia yn gwaethygu,” dywedodd Mr Jones.
Daw hyn wrth i ddarparwyr gofal alw ar Lywodraeth Cymru i’w diogelu nhw’n ariannol rhag achosion cyfreithiol yn ymwneud â Covid, gan ddweud fod diffyg diogelwch yn golygu fod angen parhau i “reoli” ymweliadau.

Fel miloedd o deuluoedd eraill, doedd dim modd i Mr Jones dreulio amser gyda’i fam, sydd yn 83 oed, yn ei chartref gofal pan oedd y pandemig ar ei waethaf.
Cafodd ymweliadau i gartrefi gofal eu gwahardd wrth i staff geisio diogelu preswylwyr hen a bregus rhag Covid-19.
Ond fe ddywedodd Mr Jones y byddai’n hoffi gweld mwy o’i fam nawr fod cyfyngiadau wedi cael eu codi yng Nghymru.
“Rydw i wedi colli gymaint o amser gyda’r un person sydd yn golygu gymaint i mi,” meddai.
Er bod nifer o gartrefi ar draws Cymru nawr yn caniatáu ymweliadau dan do a mewn ystafelloedd preswylwyr ers i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau ddechrau mis Awst, mae eraill yn ofalus iawn wrth groesawu teuluoedd yn ôl i’w cartrefi.

Yn ogystal â hyn, mae llawer o gartrefi gofal neu nyrsio preifat ar hyd Cymru heb yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sydd yn eu diogelu nhw rhag hawliadau sydd yn ymwneud â Covid.
Dywedodd Becci Roberts, rheolwr Cartref Gofal Llys Trelai yng Nghaerdydd,
“Dydyn ni ddim wedi ein hamddiffyn ac mae hyn yn destyn pryder mawr i ddarparwyr ar hyd a lled Cymru.”
“Byddai eu busnesau ddim yn gallu goroesi hawliad a dydyn nhw ddim yn dymuno wynebu’r risg hynny… felly dydyn ni ddim yn agor a dydyn ni ddim yn gallu rhedeg ein cartrefi gofal gan groesawu teuluoedd mewn fel yr oeddem ni’n arfer gwneud.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n cydnabod fod cartrefi gofal yn wynebu cynnydd mewn costau premiwm ac yn cael trafferth i sicrhau unrhyw fath o ddiogelwch ariannol ynghylch Covid.
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn cydweithio gyda llywodraethau eraill y DU i ddod o hyd i ddatrysiadau.
Dywedodd Cymdeithas yr Yswirwyr Prydeinig: “Rydyn ni’n cydnabod fod y farchnad yswiriant ar gyfer cartrefi gofal yn anodd a gallai sicrhau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sydd yn cynnwys afiechyd heintus, gan gynnwys hawliadau yn ymwneud â Covid, fod yn anoddach oherwydd y risg uwch o orfod gwneud hawliad. Mae yswiriant ar gael o hyd ar gyfer cartrefi gofal cyn hired ag y maen nhw’n cael eu rheoli’n dda ac mae risg wedi ei rheoli’n ddigonol. Mae yswirwyr a delwyr yn gweithio gyda chartrefi gofal ar sut i reoli risgiau i’r gorau ag y gallen nhw, gan y bydd hyn yn cynyddu eu siawns o gael yswiriant sydd yn ateb eu gofynion.”
Dywedodd Mr Jones ei fod yn deall y rhesymau dros y cyfyngiadau a bod staff gofal wedi bod yn “eithriadol”, ond meddai y byddai’n “caru” cael mwy o amser gyda’i fam.
“Fe ddylai fod chwarae teg i bawb.”
Prif lun: Lawrence Jones